Eich cyf/Your ref

Ein cyf/Our ref – NA001

 

 

 

9 Tachwedd 2022  

 

 

 

Annwyl Aelodau,

 

Rwy’n falch bod ein sesiwn ar 17 Hydref wedi bod yn ddefnyddiol i chi. O ran eich ymholiad, dyma wybodaeth ynghylch y rhaglenni i gyflawnwyr Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).

 

Mae’r rhan fwyaf o’r raglenni i gyflawnwyr ar gam-drin domestig a thrais rhywiol ac maent yn cael eu cyflwyno gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi mewn lleoliad yn y gymuned ac yn y ddalfa. Nid oes rhaglenni i gyflawnwyr ar gyfer mathau eraill o drais yn erbyn menywod. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni ar gyfer pobl sydd wedi cael euogfarn am drosedd o gam-drin domestig neu drais rhywiol ac maent yn cael eu cyflwyno gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi neu raglenni sy’n cyd-fynd â’r rhain.

 

Mae’r dystiolaeth am effeithiolrwydd y ddarpariaeth statudol yn gyfyngedig er eu bod yn rhaglenni achrededig. Mae rhaglen DRIVE, sydd wedi cael ei gwerthuso’n sylweddol, yn cael ei darparu mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd a Merthyr Tudful, ac yn cael ei chyflwyno ochr yn ochr â'r ymyriadau statudol. Yn y rhaglen hon gall fod yn ofynnol i bobl sy'n destun goruchwyliaeth brawf hefyd fynd i sesiynau’r rhaglen DRIVE. Mae'r rhaglen hon ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel ac mae atgyfeiriadau ond yn dod trwy broses Cam-drin Domestig MARAC.

 

Mae llai o dystiolaeth am ganlyniadau ac effaith raglenni i gyflawnwyr a ddarperir ar gyfer cam-drin domestig risg isel. Gall y rhaglenni hyn fod ar gais Gwasanaethau Cymdeithasol ac ar sail ei bod yn ofynnol cael cynllun amddiffyn plant. Gall peidio ag ymgysylltu â’r rhaglenni hyn olygu cyfyngu ar gyswllt â phlant neu bod plant yn destun achosion gofal. Cyflwynir rhaglenni eraill drwy ymgysylltu gwirfoddol. Ar y cyfan, mae hyn yn arwain at lefelau presenoldeb llawer is a gall hyn gael effaith ar gostau'r rhaglen yn erbyn y budd sydd i’w gael. Mae rhaglenni o'r math hwn yn gyfyngedig, ac mae ansicrwydd o ran cyllid i'r rhai sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd.

 

Dylid hefyd ystyried ymyriadau i’r teulu cyfan o fewn rhaglenni i gyflawnwyr. Cynhaliodd Barnardo's eu rhaglen Opening Closed Doors tan 31 Hydref eleni. Roedd y rhaglen hon yn rhoi cefnogaeth i'r goroeswr, y cyflawnwyr ac unrhyw blant ac yn cynnig ymyriadau. Ariannwyd y rhaglen hon gan y Swyddfa Gartref o dan y Gronfa Plant a Effeithiwyd gan Gam-drin Domestig. Mae'r gronfa hon yn parhau ond nid oes dim o’r cyllid hwn wedi'i glustnodi ar gyfer unrhyw raglenni yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Wrth ystyried ymyriadau ar gyfer rhaglenni i gyflawnwyr sy'n targedu grwpiau ehangach, dylid ystyried dull ymyrraeth ac atal cynnar. Gall hyn fod yn un o'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o fynd i'r afael â throseddu. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni addysg gymunedol a Mentrau Gwylwyr. Mae'r rhain yn arbennig o briodol ar gyfer ymyriadau ymhlith pobl ifanc ac oedolion ifanc. Mae Asesiad Tystiolaeth Systematig yr Uned Atal Trais yn darparu mewnwelediad defnyddiol i raglenni sydd wedi’u profi https://www.violencepreventionwales.co.uk/cms-assets/research/What-Works-to-Prevent-Violence-against-Women-Domestic-Abuse-and-Sexual-Violence-Systematic-Evidence-Assessment_2021-09-20-124755_aypz.pdf

 

Mae  casglu tystiolaeth a gwerthuso rhaglenni i gyflawnwyr yn faes i’w ddatblygu ymhellach, a bydd hynny’n digwydd fel rhan o’r gwaith o weithredu’r Strategaeth VAWDASV newydd a thrwy lif gwaith Comisiynu Cynaliadwy’r Glasbrint ar gyfer VAWDASV yng Nghymru sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.   

 

 

 

 

 

 

Yn gywir

 

 

 

 

Johanna Robinson/Yasmin Khan

 

Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, a mathau eraill o Drais ar sil Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol /

National Advisers for Violence against Women, other forms of Gender-Based Violence, Domestic Abuse and Sexual Violence